Helo, fy enw yw Richard Neale. Fi yw Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri a Llŷn. Dwi wedi gweithio i’r Ymddiriedolaeth ar hyd fy oes ac wedi gweithio ym Meddgelert ers dros chwarter canrif.
Mae hynny ddigon hir i wybod be sydd mor arbennig am y rhan hardd yma o’r byd – a hefyd mor hawdd fyddai ei ddifetha.
Pan ofynnodd Ken, perchennog Llyndy Isaf (sy’n cynnwys y rhan fwyaf o Lyn Dinas – dim ond hanner milltir i ffwrdd o’r swyddfa) a fyddai gennym ddiddordeb mewn prynu’r fferm, roeddwn yn gwybod ei fod yn haeddu’r diogelwch ucha’ posib – a hynny o fewn perchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ond, yr unig ffordd y gallwn gyrraedd y nod yw drwy eich cymorth. Y mae tiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r genedl, felly drwy ein Hapêl Eryri, ein nod ydi codi’r arian i sicrhau’r lle hudolus yma i bawb – am byth.
Dros y misoedd nesaf byddaf yn cadw mewn cysylltiad i adael i chi wybod sut mae’r Apêl yn mynd – ac mi fyddaf yn rhannu gyda chwi fy mhrofiadau a’m hangerdd am y rhan anhygoel yma o’r byd.